Neidio at y cynnwys
betaMae hwn yn wasanaeth newydd - bydd eich adborth (opens in a new window)  yn ein helpu i'w wella

Cael eich arweiniad pensiwn

Ymddeol yn hwyrach neu oedi cymryd eich cronfa bensiwn

Chi sydd i benderfynu pryd fyddwch yn cymryd eich arian pensiwn. Gallwch ei adael wedi'i fuddsoddi a'i gymryd pan fyddwch chi'n barod, hyd yn oed os gwnaethoch chi ddweud wrth eich darparwr o'r blaen y byddech chi'n ei gymryd ar oedran penodol.

Gallai'r opsiwn hwn fod yn addas os ydych:

  • yn dymuno cael yr hyblygrwydd i gymryd arian pan fydd ei angen arnoch
  • eisiau gadael arian i rywun ar ôl i chi farw
  • heb benderfynu pryd i ymddeol

Efallai na fydd yr opsiwn hwn yn addas os hoffech gael:

  • cyfandaliad nawr i dalu am rywbeth mawr
  • incwm cyson a gwarantedig

Ffeithiau allweddol

  • Er bod yr arian yn aros yn eich cronfa, nid ydych yn talu treth arno.
  • Chi sydd i benderfynu pryd fyddwch yn tynnu'r arian allan – 55 oed yw’r cynharaf fel arfer, oni bai bod gennych salwch difrifol. Os bydd rhywun yn cynnig eich helpu i gymryd eich arian pensiwn cyn hyn, mae'n debygol mai sgam ydyw.
  • Mae'r oedran cynharaf y gallwch gael mynediad i'ch cronfa bensiwn yn cynyddu i 57 oed ar 6 Ebrill 2028.
  • Gallwch barhau i dalu i mewn i'ch cronfa, ond efallai y bydd cyfyngiadau. Os ydych yn gyflogai, efallai y bydd eich cyflogwr yn parhau i wneud cyfraniadau hefyd.
  • Fel unrhyw fuddsoddiad, gall gwerth eich cronfa bensiwn godi neu ostwng.

Cyfrifiannell

Canllawiau yn unig yw'r canlyniadau ac ni fyddant yn cael eu harbed. Nid ydym yn storio eich data.

Mwy o wybodaeth

Cronfeydd pensiwn hŷn

Mae rhai potiau pensiwn hŷn sy'n cynnwys nodweddion arbennig y bydd angen i chi eu cymryd o fewn cyfnod penodol er mwyn osgoi eu colli. Er enghraifft, gallech golli'r canlynol:

  • Cyfradd Blwydd-dal Gwarantedig (GAR)
  • Isafswm Pensiwn Gwarantedig (GMP)
Cynlluniau pensiwn 'gydag elw'

Gall rhai cynlluniau pensiwn 'gydag elw' gael cosbau os na fyddwch yn eu cymryd o fewn cyfnod penodol. Os ydych yn un o'r cynlluniau hyn ac yn oedi cyn tynnu'ch pensiwn, gallech wynebu:

  • taliadau ymddeol hwyr
  • 'bonws terfynol' is pan ddaw eich cynllun i ben
  • Llai o arian os yw gwerth marchnad y gronfa yn gostwng
Beth sy'n digwydd i'ch pensiwn pan fyddwch yn marw

Gallwch enwebu rhywun i dderbyn unrhyw arian sydd ar ôl yn eich cronfa pan fyddwch yn marw.

Ydy’r opsiwn hwn o ddiddordeb i chi?

Os ydyw, gallwn ddweud wrthoch am rai camau nesaf defnyddiol i archwilio'r opsiwn hwn ymhellach.

Cymorth a chefnogaeth

Os byddai'n well gennych gael eich apwyntiad dros y ffôn, gallwch ei drefnu yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, siaradwch ag arbenigwr pensiwn yn ein gwesgwrs.

Oriau

• Dydd Llun - Gwener: 9am i 5pm

• Dydd Sadwrn, Sul a gwyliau banc: Ar gau